Ers iddyn nhw ddechrau yn y eu swyddi ddwy flynedd yn ôl, mae chwech o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu hymchwilio gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Mae’r ymchwiliadau yn cynnwys un i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Winston Roddick, yn ôl yr IPCC.

O’r chwe ymchwiliad, mae gwybodaeth wedi cael ei anfon at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) dros gŵyn sy’n ymwneud â threuliau Clive Grunshaw, cyn iddo ddechrau yn ei swydd fel comisiynydd yn Swydd Gaerhirfryn.

Mae ymchwiliadau i Winston Roddick, a chomisiynydd Hampshire Simon Hayes, dros honiadau o dwyll etholiadol wedi dod i ben ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau, dywedodd yr IPCC.

Mae Comisiynydd Durham, Ron Hogg, o dan ymchwiliad am fudd-daliadau a dderbyniodd tra’n gwasanaethu gyda llu heddlu arall. Dywedodd yr IPCC nad ydyn nhw wedi penderfynu cyfeirio ei achos at Wasanaeth Erlyn y Goron hyd yn hyn.

Yna, mae comisiynydd Caint, Ann Barnes, yn cael ei holi dros honiad o yrru heb yswiriant.

Dywedodd yr IPCC ei fod hefyd yn “rheoli” ymchwiliad pellach gan Heddlu Dinas Llundain i gostau teithio a hawliwyd gan y Comisiynydd Stephen Bett yn Norfolk.