Meri Huws, Comsiynydd y Gymraeg
Ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw, bydd dau adroddiad yn cael eu cyhoeddi a fydd yn rhoi hwb i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru.
Mae un adroddiad yn edrych ar sut mae’r iaith Gymraeg o werth masnachol i gwmnïau tra bod yr ail yn tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn sgiliau a phwysleisio’r angen am hyfforddiant pwrpasol i staff busnesau bwyd a diod.
Gwerth y Gymraeg i fusnesau
Un o’r sectorau sy’n gorfod cystadlu fwyaf â’i gilydd er mwyn denu sylw cwsmeriaid yw’r sector bwyd a diod.
Mae gwaith ymchwil newydd, Gwerth y Gymraeg i’r sector bwyd a diod yng Nghymru, gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dangos bod busnesau bwyd a diod o Gymru yn gweld defnyddio’r Gymraeg o werth masnachol er mwyn denu a chadw cwsmeriaid.
Fel rhan o’r ymchwil, fe gafodd cwmnïau bwyd a diod o wahanol rannau o’r wlad eu cyfweld, llawer ohonynt yn enwau adnabyddus i gwsmeriaid yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys Blas ar Fwyd, Caws Cenarth, Edwards o Gonwy, Waffles Tregroes a Llaeth y Llan.
Daeth yr ymchwil i’r casgliad fod defnyddio’r Gymraeg yn gwneud i’r cynnyrch sefyll allan, yn cynnig cyfleoedd i werthu mewn marchnadoedd newydd ac yn atgyfnerthu delwedd brand.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae sefyll allan mewn marchnad gystadleuol wastad yn her, ond yng Nghymru mae gan fusnesau arf marchnata gwerthfawr yn yr iaith Gymraeg.
“Fy ngobaith yw y bydd y dystiolaeth yr ydym wedi’i chasglu yn cryfhau’r neges i fusnesau eraill y gall y Gymraeg fod o fudd ac o fantais iddynt mewn cymaint o wahanol ffyrdd.”
Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Yn y cyfamser, mae Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru wedi comisiynu ymchwil i edrych ar y sgiliau sydd eu hangen ar y sector yn y dyfodol.
Yn rhan o’r ymchwil, dangosodd cyflogwyr y bylchau sgiliau fydd o bosibl i’w gweld yng ngweithlu’r dyfodol, ond roeddent yn hyderus y byddai’r diwydiant yn ffynnu ymhellach yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gomisiynodd yr ymchwil a gan weithio gyda chyflogwyr, Llywodraeth Cymru a budd-ddeiliaid allweddol, mae’r Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod hefyd wedi datblygu cyfres o raglenni hyfforddi sydd wedi’u teilwra’n benodol at anghenion amrywiol y sector.
Yn ôl Siân Roberts-Davies, rheolwr y prosiect, mae’n adeg amserol i ystyried gyrfa o fewn y diwydiant bwyd a diod: “Gwyddom i gyd am bwysigrwydd y sector bwyd a diod i economi’r wlad, pwysigrwydd a danlinellwyd gan dargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn ei Chynllun Gweithredu diweddar.
“Yr hyn sydd angen ei hybu ymhellach yw’r llwybrau gyrfa eang ac amrywiol sydd ar gael, o amaethyddiaeth i fanwerthu i letygarwch.
“Mae’r Prosiect Bwyd a Diod wedi dechrau mynd i’r afael â hyn drwy ffilmio cyfres o astudiaethau achos sy’n arddangos busnesau newydd a rhai sydd wedi hen sefydlu, a dros yr wythnosau nesaf yma, bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i ysgolion a chynghorwyr gyrfaoedd ar hyd a lled Cymru.”