Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi damwain ger Casnewydd brynhawn ddoe.
Digwyddodd y ddamwain am 4yh ddydd Sul ar y ffordd segur sy’n rhedeg o gylchfan Lôn yr Eglwys, Coedcernyw.
Cafodd yr heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw ond bu farw’r beiciwr 32 mlwydd oed, o ardal Casnewydd, yn y fan a’r lle.
Roedd y dyn yn gyrru beic modur KTM oren ar hyd y ffordd. Mae’n debyg nad oedd cerbyd arall wedi bod yn rhan o’r ddamwain.
Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain i ffonio 101 gan ddyfynnu rhif 343 30/11/14.