Cafodd llai na hanner y bobl a fu farw o ganser yng Nghymru yn 2012 – a dim ond 5% o bobl fu farw o gyflyrau eraill – ofal lliniarol arbenigol ar ddiwedd eu hoes yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at brofiadau pobl ym mlwyddyn olaf eu hoes – sy’n cynnwys mynd i’r ysbyty ac yna yn ol adref, nifer fawr o weithiau.

Mae’r adroddiad, gan elusen Marie Curie mewn partneriaeth â Sefydliad Bevan, wedi dadansoddi data marwolaethau yng Nghymru yn 2012 a ddarparwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS).

Mae’r adroddiad yn dadansoddi’r amrywiaeth sy’ na o ran mynediad i wasanaethau gofal lliniarol arbenigol ym mlwyddyn olaf bywyd. Canfu’r adroddiad mai dim ond 17% o bobl a fu farw yn 2012 wnaeth dderbyn gofal lliniarol arbenigol.

Canfu hefyd fod pobl hyn a fu farw o ganser yn llai tebygol o fod wedi derbyn gofal lliniarol arbenigol na phobl iau – 35% ar gyfer pobl 85 oed a throsodd, o’i gymharu â 58% i’r rhai rhwng 0 a 44 mlwydd oed.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i ganolbwyntio ar leihau nifer y dyddiau mae pobl yn eu blwyddyn olaf yn ei dreulio yn yr ysbyty. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod gostyngiad o 10% dros gyfnod o dair blynedd yn darged rhesymol. Byddai hynny, yn ei dro, yn rhyddhau 188 o welyau ysbyty yn flynyddol.

‘Amhrisiadwy’

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie yng Nghymru y gall gofal lliniarol fod yn amhrisiadwy i bobl yn eu misoedd olaf.

Meddai Simon Jones: “Mae gan Gymru lefel uwch o wasanaethau gofal lliniarol arbenigol am bob 1,000 o farwolaethau na Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

“Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn ein hatgoffa o’r gwaith y mae angen ei wneud i sicrhau y byddai pawb sydd angen, ac yn cael budd, o ofal lliniarol arbenigol yn ei gael o hyd.

“Er enghraifft, mae’r lefel o ofal lliniarol arbenigol a roddir i bobl sy’n marw o ddementia mor isel â 3.8%.

“Yn amlwg, bydd angen y math o ofal arbenigol na ellir ond ei roi mewn ysbyty tuag at ddiwedd oes. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gallant hefyd gael gofal mwy priodol mewn gwahanol lefydd, sy’n cynnwys eu cartrefi eu hunain.”