Protestwyr ar strydoedd Hong Kong
Yn Hong Kong mae’r heddlu wedi gwrthdaro gyda phrotestwyr sydd o blaid democratiaeth wrth iddyn nhw geisio amgylchynu pencadlys y llywodraeth.

Mae’r protestwyr yn ceisio adfywio’r ymgyrch sy’n galw am ddiwygiadau democrataidd ar ôl iddyn nhw wersylla ar strydoedd y ddinas am fwy na deufis.

Dywedodd arweinwyr y mudiad wrth dorf o brotestwyr neithiwr y byddan nhw’n ehangu’r ymgyrch.

Fe lwyddodd y protestwyr i atal traffig ar y brif ffordd ond fe gawson nhw eu rhwystro rhag mynd i lawr ffordd arall at swyddfa’r prif weithredwr Leung Chun-Ying.

Dywedodd yr heddlu bod 40 o brotestwyr wedi cael eu harestio.

Mae’r protestwyr yn pwyso ar lywodraeth Hong Kong i ymateb i’w galwadau i sgrapio cynllun gan arweinwyr comiwnyddol China i ddewis ymgeiswyr yn yr etholiadau i benodi arweinydd newydd Hong Kong yn 2017.

Fe ddechreuodd y protestiadau ym mis Medi.