Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon (llun: PA)
Dywed ‘Makar’ yr Alban – bardd llys swyddogol y wlad – ei bod hi wedi cael ei hysbrydoli gan y Prif Weinidog newydd, Nicola Sturgeon, i ymuno â’r SNP.
Liz Lochhead yw un o feirdd mwyaf yr Alban ar hyn o bryd ac mae’n canmol y math o wleidyddiaeth ‘gynhwysol’ y mae Nicola Sturgeon wedi ei arddel ers cymryd drosodd gan Alex Salmond.
Ers y refferendwm ar annibyniaeth ym mis Medi, mae aelodaeth yr SNP wedi cynyddu o 25,000 i fwy na 92,000.
Meddai Liz Lochhead, sy’n dal swydd y Makar ers 2011: “Dw i wedi cael fy ysbrydoli gan Nicola Sturgeon yn siarad am ddull newydd o arwain a math newydd cynhwysol o wleidyddiaeth; dw i’n credu bod ganddi siawns wirioneddol o gyflawni hynny.
“Roedd ymgyrch y refferendwm yn rhyfeddol a bellach dim ond yr SNP sy’n cynnig gobaith o herio’r sefydliad a’r status quo. “
Wrth ei chroesawu, dywedodd Nicola Sturgeon:
“Dw i wrth fy modd fod Makar yr Alban, Liz Lochhead wedi ymuno â’r SNP. Yn ystod ymgyrch y refferendwm roedd Liz yn ysbrydoliaeth i lawer ar draws y mudiad, a does gen i ddim amheuaeth iddi helpu ddenu llawer o bleidleiswyr ansicr i gefnogi annibyniaeth.
“Mae’r refferendwm wedi trawsnewid gwleidyddiaeth yn yr Alban am byth. Gydag aelodaeth yn codi o tua 25,000 ddiwrnod y refferendwm i dros 92,000 heddiw, ni fu erioed well amser i chwarae rhan yn y blaid sy’n sefyll dros yr Alban.”