Y cyn-brif weinidog Gordon Brown
Mae’r cyn-brif weinidog Gordon Brown yn galw ar Albanwyr a gefnogodd annibyniaeth yn y refferendwm i bleidleisio i’r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Dywed y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn arwain at £450 miliwn yn fwy at y gwasanaeth iechyd a swyddi i bobl ifanc ac y gallai’r Alban gael £100 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol o ganlyniad i “rannu adnoddau ledled y Deyrnas Unedig”.

Dywedodd hefyd ei bod hi’n bryd newid pwyslais gwleidyddiaeth yr Alban er mwyn canolbwyntio ar wella bywydau pobl gyffredin.

Daw ei apêl ar ôl i ddegau o filoedd o gefnogwyr Llafur yr Alban gefnogi annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi.

Dywed fod yn rhaid i’w blaid “berswadio cefnogwyr annibyniaeth mai’r Senedd yr ydym yn ei chreu yw’r ffordd orau o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol yn y dyfodol”.

Meddai: “Fy nghred i yw mewn undod mae nerth. Dw i’n credu bod rhannu’n well na hollti oddi wrth ein gilydd, dw i’n credu bod cydweithredu’n well na gwrthdaro, ac dw i’n credu mwy na dim bod i’r cryf helpu’r gwan pan maen nhw mewn anawsterau’n ein gwneud ni i gyd yn gryfach.

“Dyma genhadaeth y Blaid Lafur. Rydym mewn sefyllfa unigryw i gyflawni’r newid sydd ar yr Alban ei angen.”