Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi gwawdio sylwadau a wnaed gan Arweinydd Llafur, Ed Miliband, drwy smalio sychu ei ddagrau – ac yna sychu ei drwyn – gyda hances boced San Siôr.

Roedd cyn-Brif Weinidog yr Alban yn cyfeirio at sylw wnaeth Ed Miliband pan ofynnwyd iddo yn ddiweddar sut oedd o’n teimlo yn gweld llun o fan wen tu allan i dŷ yn arddangos baneri San Siôr. Ateb Ed Miliband oedd: “Parch.”

Wrth dderbyn gwobr ‘Gwleidydd y flwyddyn’ neithiwr, fe wnaeth Alex Salmond ddweud ei fod yntau’n teimlo “parch” tuag at faner Lloegr, ac yna fe wnaeth smalio crio.

Cefndir

Bu’n rhaid i Emily Thornberry, un o lefarwyr mainc flaen y Blaid Lafur, ymddiswyddo wedi iddi gyhoeddi llun ar ei chyfrif trydar o’r fan wen a baneri San Siôr ar dŷ o isetholiad Rochester a Strood. Roedd aelodau Llafur eraill wedi cwyno bod y llun yn sarhaus.

Pan ofynnwyd i Ed Miliband beth oedd yn dod i’w feddwl wrth weld y llun, dywedodd “parch”.

Gwobr

Fe wnaeth Alex Salmond dderbyn gwobr ‘Gwleidydd y Flwyddyn’ yn seremoni cylchgrawn y Spectator neithiwr.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod bwysig i’r Alban, ac er na wnaeth yr ymgyrch ‘IE’ ennill yn y refferendwm, does dim amheuaeth fod yr Alban wedi newid yn gyfan gwbl.

“Gyda’r SNP nawr y drydedd blaid fwyaf ym Mhrydain gyda chefnogaeth yn parhau i gynyddu, rydym yn benderfynol bod yr Alban yn mynd i sicrhau gwelliant go iawn.”