Boris Johnson
Mae Maer Llundain yn galw ar gwmnïau technoleg i ddatblygu drôns sy’n medru cludo siopa at gwsmeriaid sy’n prynu dros y We.

Yn ôl Boris Johnson mae’r cynnydd mewn siopa o flaen sgrin wedi arwain at fwy o draffig, gyda faniau gwyn yn bla ar strydoedd prifddinas y Saeson.

“Rydan ni angen ateb,” meddai’r Maer wrth.

“Rydw i eisiau ap sydd nid yn unig yn caniatáu i mi shopa ar y We…rydw i eisiau drôn personol yn galw heibio gyda’r nwyddau yn ôl fy nymuniad.”