Llinell biced yng nglofa Bilston Glen yn Yr Alban. Llun trwy garedigrwydd John Sturrock/reportdigital.co.uk
Mae’n bwysig dathlu hiwmor y glowyr fu’n streicio 30 mlynedd yn ôl, yn ogystal â chofio am eu safiad yn erbyn Llywodraeth Geidwadol Maggie Thatcher.
Dyna neges cynhyrchydd ffilm ddogfen am Streic y Glowyr 1984-85 sydd wedi cael ei chanmol am fod “as gripping as a thriller” gan The Guardian a’i galw’n “remarkable film” gan y newyddiadurwr chwedlonol John Pilger.
Bydd Still The Enemy Within yn cael ei dangos yn Neuadd Ogwen Bethesda heno, a’r cynhyrchwyr yn cynnal sesiwn holi-ac-ateb ar y diwedd.
“Mae’n ffilm ddoniol iawn,” meddai’r cynhyrchydd Sinead Kirwan.
“Mae’r streic wastad yn cael ei phortreadu fel rhywbeth ofnadwy o drist a thorcalonnus, ac yn amlwg roedd y canlyniad ar y diwedd yn dorcalonnus.
“Ond mewn gwirionedd mae’r glowyr yn llawn hiwmor a chynhesrwydd, a bu llawer o sefyllfaoedd rhyfedd adeg y streic pan oedd ganddoch chi bethau fel pobol hoyw a lesbian yn mynd i bentrefi yng Nghymru er mwyn cefnogi’r achos.
“Ac roedd y glowyr yn gorfod gwneud pethau gwallgof er mwyn osgoi sylw’r heddlu… mae gan y glowyr synnwyr digrifwch cryf iawn, ac roedden ni am adlewyrchu hynny yn y ffilm.”