Fe fu na ergyd arall i ymdrechion yn Llywodraeth i reoli nifer y mewnfudwyr i’r DU wrth i ffigurau swyddogol ddangos cynnydd “sylweddol” arall.
Roedd tua 583,000 o fewnfudwyr wedi dod i’r DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef “cynydd sylweddol” o’r 502,000 yn y 12 mis blaenorol.
Roedd nifer y gwir fewnfudwyr – sef y gwahaniaeth rhwng y rhai sy’n cyrraedd ac yn gadael – yn 260,000 yn y cyfnod yma, o’i gymharu â 182,000 yn y 12 mis blaenorol, wrth i 323,000 o bobl adael y wlad.
Mae’r cynnydd o ganlyniad i fewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd, a oedd wedi cynyddu 45,000.
Daw’r ffigurau ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gyfaddef bod mewnfudwyr o’r UE wedi amharu ar ymdrechion i gwtogi’r nifer.