Arglwydd Smith o Kelvin
Fe fydd Holyrood yn cael cyfrifoldebau newydd dros dreth incwm a lles fel rhan o gynllun i roi pwerau datganoli pellach i’r Alban yn sgil y refferendwm ar annibyniaeth.

Mae Comisiwn Smith, a gafodd ei sefydlu er mwyn ystyried pa bwerau ychwanegol y gellir eu trosglwyddo i’r Alban, wedi argymell y dylai’r Senedd gael gosod cyfraddau treth incwm, gyda’r arian i gyd yn aros yn yr Alban.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cefnogi datganoli’r dreth ar deithiau awyr ac wedi awgrymu bod cyfran o’r arian sy’n cael ei godi o TAW yn cael ei roi i Holyrood.

Dylai Senedd yr Alban hefyd allu creu budd-daliadau newydd mewn meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli, ac y gallai cyfres o fudd-daliadau i gefnogi’r henoed, gofalwyr, a phobl sâl neu anabl hefyd gael eu datganoli’n llawn, meddai’r adroddiad.

Un o’r argymhellion eraill oedd y dylai’r Alban gael pwerau dros ei hetholiadau ei hun, a allai arwain at roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn etholiadau Senedd yr Alban.

Wrth gyhoeddi’r argymhellion, dywedodd cadeirydd y Comisiwn yr Arglwydd Smith o Kelvin: “Gyda’i gilydd, fe fydd y pwerau newydd yma yn creu Senedd gryfach, fwy atebol ac annibynnol.”

Dywedodd yr Arglwydd Smith bod y comisiwn wedi derbyn 18,000 o ymatebion gan y cyhoedd – a’u bod wedi cael eu hystyried yn y trafodaethau.

Mae dirprwy brif weinidog yr Alban, John Swinney, wedi croesawu’r argymhellion.

Trafodaethau

Cafodd Comisiwn Smith ei sefydlu gan y Prif Weinidog David Cameron yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban ym mis Medi – ar ôl i’r tair prif blaid roi addewid y byddai datganoli pellach i Holyrood petai pleidlais ‘Na’ yn y refferendwm.

Mae’r argymhellion yn cael eu cyhoeddi heddiw ar ôl mis o drafodaethau trawsbleidiol rhwng cynrychiolwyr pum plaid Senedd yr Alban.

‘Angen cynnwys pob cenedl’

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler:

“Mae Comisiwn Smith wedi gweithio’n gyflym i lunio ei gynigion o ran y camau nesaf i’r Alban. Rwyf wedi dweud yn aml ei bod yn bwysig bod newid cyfansoddiadol yn cynnwys pob cenedl yn y DU – nid yr Alban yn unig.

“Trwy gydol hanes datganoli yn y DU, mae newidiadau i’r setliad cyfansoddiadol yn yr Alban yn aml wedi arwain at newidiadau tebyg yng Nghymru.

“A dweud y gwir, mae Prif Weinidog y DU ei hun wedi dweud y bydd gan bobl Cymru hefyd fwy o lais am eu pethau eu hunain.

“Rwy’n edrych ymlaen at astudio’r cynigion yn fanylach ac at weld yr elfennau y byddai’n fuddiol eu hystyried o ran Cymru.”

Cyfarfu’r Llywydd â Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar 24 Tachwedd 2014 i drafod datganoli yn y dyfodol yng Nghymru.

‘Cam anferth’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi croesawu argymhellion Comisiwn Smith, gan ddweud eu bod yn “gam anferth” tuag at sefydlu Deyrnas Unedig Ffederal a hunan-lywodraeth.

Ond rhybuddiodd na ddylai Cymru gael ei gadael ar ei hôl.

Mewn datganiad, dywedodd Kirsty Williams: “Tra bod cytundeb datganoli’r Alban ar gyfer y dyfodol yn eglur, ni ellir dweud yr un peth am Gymru – mae angen i hynny newid gan na all Cymru gael ei gadael ar ei hôl.”

Galwodd ar Gymru i “siarad ag un llais”, gan fynnu y dylai’r holl bleidiau gytuno ar brif egwyddorion y Comisiwn.

“Hyd yn hyn, dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi gwneud hynny yn San Steffan,” meddai.

“Mae adroddiad Comisiwn Smith yn eang ac fe fyddai nifer o’r argymhellion yn briodol i Gymru.

“Mae’r momentwm ar gyfer datganoli’n symud yn gynt nawr nag y mae wedi symud ers blynyddoedd.

“Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod Cymru’n cael y pwerau y mae eu hangen arni i helpu i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.”

Digon da i Gymru?

Adlewyrchu’r sylwadau yma wnaeth AS Plaid Cymru Jonathan Edwards gan ddweud y dylai’r pwerau sydd wedi cael eu rhoi i’r Alban fod ar gael i Gymru hefyd.

“Yr her nawr,” meddai “yw cael esboniad i’r cwestiwn – os yw’r pwerau yma’n ddigon da i’r Alban pam nad ydyn nhw’n ddigon da i Gymru?”