Fe fydd dyn 50 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd y bore ma, wedi iddo gael ei gyhuddo o geisio llofruddio dynes 54 oed yn y ddinas.

Bu swyddogion heddlu yn ymchwilio i’r ymosodiad ddigwyddodd yn Ffordd Beaufort ar 20 Tachwedd.

Bryd hynny, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Ffordd Beaufort toc cyn 6 o’r gloch a darganfod dynes a dyn gydag anafiadau difrifol.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.

Roedd Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn credu bod y dyn a’r ddynes yn adnabod ei gilydd.