Roedd un o bob pum plentyn gafodd eu geni ym Mhrydain ar ddechrau’r ganrif yn ordew erbyn iddyn nhw gyrraedd 11 oed, yn ôl yr astudiaeth ddiweddaraf.

Yng Nghymru, fe wnaeth Arolwg Carfan y Mileniwm ddatgelu bod 23% o blant yn ordew erbyn eu bod yn 11 oed ac ym mlwyddyn olaf yr ysgol gynradd, tra bod 40.5% un ai yn ordew neu’n rhy drwm.

Mae canran y plant sy’n ordew yng Nghymru yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon (39.9%), Lloegr (35%) a’r Alban (33%).

Mae’r ffigyrau yn cynrychioli “cynnydd aruthrol” yn nifer y plant sy’n ordew, o’i gymharu â’r rhai gafodd eu geni cyn cychwyn y ganrif ddiwethaf.

Dywedodd Dr Roxanne Connelly, fu’n asesu’r ffigyrau, bod y data yn dangos bod plant oedd dros eu pwysau pan yn saith oed yn “codi’n araf” i’r categori gordew erbyn troi’n 11 oed.

Addysg y rheini

Daeth i’r amlwg hefyd bod “cysylltiad amlwg” rhwng pwysau plant yn 11 oed, a lefel addysg eu rheini.

Roedd 25% o’r plant, lle nad oedd gan eu rhieni gymwysterau addysgol, yn ordew, o’i gymharu â 15% o’r plant lle’r oedd gan o leiaf un rhiant radd.

Yn ogystal, roedd cysylltiad rhwng maint y rheini a maint y plant – gyda’r awgrym bod plant yn efelychu ymddygiad y rhieni.

Atebion

“Un o’r prif bethau sy’n rhaid i ni edrych arno nawr yw pam bod cynnydd mor aruthrol yn y plant sydd dros eu pwysau ac yn ordew rhwng saith ac 11 oed,” esboniodd Dr Roxanne Connelly.

“Dim ond canran fechan o blant gordew saith oed oedd yn colli pwysau.

“Mae’r canfyddiadau yn pwysleisio gwerth Arolwg Carfan y Mileniwm er mwyn mynd i’r afael a phroblemau sy’n gysylltiedig ag iechyd plant, ac i ddeall mwy am yr ‘epidemig gordewdra’.”