Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan Heddlu De Cymru yn “rhagorol”, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.
Cafodd canlyniadau arolwg o’r holl heddluoedd eu cyhoeddi heddiw, ac fe ddaeth i’r casgliad bod Heddlu’r De yn rhagorol o ran effeithlonrwydd wrth herio ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn “dda” wrth leihau torcyfraith, ymchwilio ac atal troseddau.
Yn ôl yr adroddiad, mae Heddlu’r De yn cynnig arweiniad da o ran strategaethau i leihau torcyfraith ac atal ail-droseddu.
Un o’r meysydd eraill a gafodd ei ganmol oedd arferion wrth fynd i’r afael ag achosion o drais yn y cartref, tra bod lefelau bodlonrwydd unigolion sy’n dioddef o ganlyniad i dorcyfraith ymhlith y 10 uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Nododd yr adroddiad hefyd fod Heddlu’r De ymhlith yr heddluoedd sydd wedi gwneud y toriadau ariannol lleiaf o holl heddluoedd Cymru a Lloegr.
Dywedodd hefyd fod y broses o gofnodi troseddau’n gywir i’w ganmol.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Peter Vaughan fod yr adroddiad yn “bositif dros ben”.
Pryderon
Yn ôl yr adroddiad, mae Heddlu Gwent wedi methu ym mhob maes a gafodd ei fesur.
Fe ddywedodd fod angen iddyn nhw atal mwy o droseddau, gwella’u dulliau o atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol a chynnig mwy o werth am arian o ran gwasanaethau.
Roedd pryderon hefyd ynghylch y ffordd y mae’n ymateb i achosion o drais yn y cartref.
Ond roedd canmoliaeth i’r broses o wella ymddygiad yr heddlu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Nododd yr adroddiad fod angen i Heddlu’r Gogledd a Heddlu Dyfed-Powys wella mewn nifer o feysydd hefyd.
Er mai cryfderau Heddlu’r Gogledd yw atal a thorri torcyfraith a herio ymddygiad gwrth-gymdeithasol, nododd yr adroddiad fod angen gwelliant wrth ymchwilio i droseddau.
Digon boddhaol oedd perfformiad Heddlu Dyfed-Powys ar y cyfan, ond cafodd pryderon eu mynegi am eu dulliadu o ymdrin â thrais yn y cartref.