Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews
Fe fydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews yn dweud wrth gynhadledd heddiw y dylai cynghorau adlewyrchu’r bobol maen nhw’n eu gwasanaethu.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, mae disgwyl i’r Gweinidog ddweud bod “rhaid i’n gweledigaeth ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol fod yn fwy na rheolaeth lesg”.

“Does neb am fod yn rhan o lywodraeth leol er mwyn torri a chau gwasanaethau neu reoli dirywiad.”

Fe fydd yn ychwanegu bod angen “rhannu pŵer a chyfrifoldeb gyda chymunedau”.

Bydd Leighton Andrews hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod tenantiaid yn hanner awdurdodau lleol Cymru wedi penderfynu y dylai mentrau cymdeithasol redeg eu tai.

“Mae angen i ni groesawu’r modelau newydd hyn ar gyfer darparu gwasanaethau ac annog pobol i feddwl yn greadigol am sut y gallwn eu datblygu.”

‘Newid sylfaenol’

Fe fydd yn annog y gwahanol sectorau i gydweithio i gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd.

“Mae angen i newid sylfaenol ddod â chymunedau yn nes at y gwasanaethau cyhoeddus maen nhw’n eu derbyn. Dim ond drwy rannu pŵer a chyfrifoldeb y gallwn adfer y cysylltiad rhwng cymunedau a’r rheini sy’n eu cynrychioli.”

Fe fydd e hefyd yn galw am drafodaeth ynghylch pwy sy’n cynrychioli cymunedau lleol a sut mae’r cynrychiolwyr hynny’n cysylltu â’r gymuned y maen nhw’n gyfrifol amdani.

Mae disgwyl i Leighton Andrews gyhoeddi papur gwyn ynghylch y mater ym mis Chwefror.