Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun gwerth £7 miliwn heddiw i geisio lleihau effaith llifogydd ar hyd at 300 o gartrefi yng Nghwm Tawe.
Bydd y cynllun yn cael ei lansio gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant ar y diwrnod y mae trefniadau wrth gefn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer tywydd gaeafol ledled Cymru.
Cyn i’r cynllun gael ei gyhoeddi, rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai difrod yn sgil llifogydd dros 100 o flynyddoedd gostio hyd at £40 miliwn.
Cafodd pridd ei dynnu oddi ar safle Parc Llansamlet ar ochr ddwyreiniol Abertawe er mwyn creu banciau newydd i gynnal dŵr.
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd ardal wlypdir yn cael ei chreu i godi statws ecolegol afon Tawe.
‘Gwella’r ymateb’
Dywedodd Carl Sargeant mewn datganiad fod y buddsoddiad yn “gwella ein parodrwydd, ein dycnwch a’n hymateb i ddigwyddiadau megis llifogydd”.
Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Emyr Roberts y byddai goblygiadau llifogydd yng Nghwm Tawe Isaf yn “ddifrifol”.
“Nid yn unig y byddai’n difrodi cartrefi pobol ond fe fyddai’n difrodi ardal bwysig i fusnesau ac yn peryglu holl economi’r ardal.”
Ychwanegodd fod y nawdd ychwanegol wedi eu galluogi i sefydlu llwybr beicio newydd, pont newydd i gerddwyr a gwell adnoddau ar gyfer bywyd gwyllt.
Cyn y lansiad heddiw, bydd Carl Sargeant a chynrychiolwyr o Gyngor Abertawe yn cwrdd yn Stadiwm Liberty i drafod y cynllun.