John Allen
Fe fydd y rheithgor yn achos John Allen, cyn-bennaeth cartrefi plant yn y gogledd, yn ail-gychwyn ystyried eu dyfarniad heddiw – wedi iddyn nhw ei gael yn euog o 26 o gyhuddiadau o gam-drin ddoe.

Mae’r gŵr 73 oed o Needham Market, ger Ipswich yn Suffolk yn wynebu 40 cyhuddiad i gyd.

Trwy gydol yr achos, roedd wedi gwadu’r cyhuddiadau o gam-drin 20 o blant yn rhywiol rhwng y 1960au a’r 1990au – pan roedd yn bennaeth ar 11 o gartrefi gofal yn ardal Wrecsam.

Mae’r rheithgor wedi bod yn asesu’r dystiolaeth ynglŷn â’r 40 cyhuddiad sy’n wynebu John Allen ers 19 Tachwedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Y cefndir

Mae’r achosion yn erbyn John Allen yn ymwneud ag 19 bachgen ac un ferch, rhwng saith a 15 oed, rhwng 1968 hyd at 1991.

Fe wnaeth Allen sefydlu cwmni Cymuned Bryn Alyn, grŵp o 11 o gartrefi plant ger Wrecsam yn 1968. Roedd y rhan fwyaf o’r achosion o gam-drin honedig wedi digwydd mewn tri o’r cartrefi – Bryn Alyn, Pentre Saeson a Bryn Terion.