Senedd Holyrood yn yr Alban
Mae disgwyl i gynlluniau i roi mwy o bwerau dros drethi i Holyrood gael eu cyhoeddi heddiw.
Bydd Comisiwn Smith, sydd a’r dasg o ddod i gytundeb ynglŷn â rhoi rhagor o bwerau i Senedd yr Alban, yn cyhoeddi ei argymhellion y bore ma.
Mae disgwyl i’r Comisiwn argymell datganoli pwerau dros gyfraddau treth incwm ond nid lwfansau personol – sef y trothwy mae treth yn cael ei dalu.
Mae ’na ddyfalu hefyd y bydd yr Alban yn cael pwerau newydd dros daliadau lles a chyfrifoldeb am gynnal ei hetholiadau ei hun.
Cafodd Comisiwn Smith ei sefydlu gan y Prif Weinidog David Cameron yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban ym mis Medi ar ôl i’r tair prif blaid roi addewid y byddai datganoli pellach i Holyrood petai pleidlais Na yn y refferendwm.
Daw’r argymhellion ar ôl mis o drafodaethau trawsbleidiol rhwng cynrychiolwyr pum plaid Senedd yr Alban.