Mae ymosodiad wedi bod ar gerbyd Llysgenhadaeth Prydain yn Afghanistan, gan anafu nifer o aelodau o staff.

Cafodd y cerbyd ei daro gan ffrwydryn ym mhrifddinas y wlad, Kabul. Mae adroddiadau mai hunan fomiwr ar feic modur oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Gallwn gadarnhau bod ymosodiad wedi bod ar gerbyd Llysgenhadaeth Prydain yn Kabul. Mae nifer o staff wedi’u hanafu.”

Mae cyfres o ymosodiadau wedi bod yn Kabul dros yr wythnosau diwethaf wrth i wrthryfelwyr gynyddu’r pwysau ar luoedd diogelwch lleol a milwyr yr Unol Daleithiau a Nato.