Lee Rigby
Mae teulu’r milwr Lee Rigby wedi beirniadu’r wefan gymdeithasol Facebook, wedi iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi anwybyddu sylwadau gan un o’r llofruddion y byddai’n lladd milwr.
Dywed teulu’r milwr a gafodd ei lofruddio ger barics Woolwich ym mis Mai’r llynedd bod Facebook yn rhannol gyfrifol am ei farwolaeth.
Dywedodd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddoe gan y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch fod un wefan gymdeithasol yn “hafan ddiogel i derfysgwyr”.
Honnir mai Facebook yw’r wefan sydd dan sylw gan nad oedd wedi gweithredu tros sgwrs rhwng Michael Adebowale – un o’r llofruddion – a jihadydd o dramor, bum mis cyn i Lee Rigby gael ei lofruddio.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor seneddol, Syr Malcolm Rifkind y gallai’r wefan fod wedi tynnu sylw MI5 at y sgwrs ac y gallai’r ymosodiad fod wedi cael ei atal.
‘Gwaed ar eu dwylo’
Dywedodd chwaer Lee Rigby, Sara wrth bapur newydd y Sun fod gan “Facebook waed fy mrawd ar eu dwylo”.
“Dwi’n eu cael nhw’n rhannol gyfrifol am lofruddiaeth Lee.”
Dywedodd llefarydd ar ran Facebook nad ydyn nhw’n gwneud sylw am achosion unigol ond eu bod nhw’n gwahardd cynnwys sy’n cael ei ystyried yn ddeunydd brawychol.
Dywedodd llys-tad Lee Rigby y byddai’n holi Prif Weinidog Prydain, David Cameron ynghylch diogelwch ar y we.
Cafodd nifer o gyfrifon Facebook yn ymwneud ag Adebowale eu dileu’n awtomatig oherwydd eu natur frawychol, ond nid oedd asiantaethau gweithredu’r gyfraith wedi cael eu hysbysu.
Penderfynodd y pwyllgor seneddol ei bod hi’n annhebygol fod asiantaethau cudd-wybodaeth wedi gweld y negeseuon tan ar ôl marwolaeth Lee Rigby.
Dywedodd y pwyllgor nad oedd modd i MI5, MI6 na GCHQ atal ei lofruddiaeth er gwaethaf sawl ymgais yn y gorffennol i gysylltu Adebowale ac Adebolajo â brawychiaeth.
Ddoe, dywedodd David Cameron bod rhaid i’r awdurdodau a’r gwefannau cymdeithasol weithredu i atal brawychwyr rhag cyfathrebu â’i gilydd.