Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths wedi addo gweithredu yn dilyn cyhoeddi rhestr o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Ardal Sant Iago yng Nghaerffili sydd ar frig y rhestr a gorllewin Y Rhyl sy’n ail.
Mae saith o’r deg uchaf ar restr 2011 yn parhau ar restr 2014.
Caiff y rhestr ei llunio’n seiliedig ar incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad i wasanaethau, diogelwch yn y gymuned, yr amgylchedd a thai.
Mae’r rhestr yn dangos bod nifer uchel o ardaloedd yng nghymoedd y De yn parhau’n ddifreintiedig, yn ogystal ag ardaloedd ar gyrion Caerdydd ac Abertawe.
Blaenau Gwent yw’r Awdurdod Lleol lle mae’r rhan fwyaf o ardaloedd difreintiedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o raglenni eisoes i fynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys rhaglen Cymunedau’n Gyntaf sydd wedi neilltuo £75 miliwn ar gyfer addysg ac iechyd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Maen nhw eisoes wedi neilltuo £282 miliwn fel rhan o gynllun Dechrau’n Deg i wella cyfleoedd bywyd plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae cynlluniau eraill wedi helpu pobol ddi-waith i ddod o hyd i swyddi ac mae £102 miliwn wedi cael ei neilltuo i adfywio trefi a dinasoedd Cymru.
O fis Medi eleni, mae Her Ysgolion Cymru wedi dechrau buddsoddi £20 miliwn i helpu 40 o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig.
Ymateb
Wrth ymateb i’r rhestr, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Rydym wedi ymrwymo i herio’r hyn sy’n achosi tlodi a’i effeithiau.
“Mae ein Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi yn gosod ein targedau ar gyfer gwella deilliannau teuluoedd sy’n byw mewn cartrefi incwm isel.
“Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig i helpu i wella cyfleoedd pobol mewn bywyd.”
Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hut: “Rydym wedi cyhoeddi’r ystadegau fel y gallwn ni, fel Llywodraeth, ddeall y ffactorau gwaelodol sy’n arwain at fod yn ddifreintiedig.
“Mae hyn yn hanfodol i lunio ein camau i drechu tlodi a sicrhau ein bod yn gwneud popeth allwn ni i fynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi a’i effeithio.”
‘Gwarth cenedlaethol’
Wrth ymateb i’r rhestr, dywedodd llefarydd cymunedau’r Ceidwadwyr yng Nghymru, yr Aelod Cynulliad Mark Isherwood fod y broblem yn parhau’n “warth cenedlaethol”.
Dywedodd wrth Golwg360: “Mae Llafur yng Nghymru wedi cael mwy na 15 mlynedd i drechu anghydraddoldeb, ym meysydd iechyd a lles pawb yng Nghymru, ac er lles dyfodol economi Cymru.
“Er hyn, mae graddfa’r broblem yn parhau’n warth cenedlaethol.
“Dydy biliynau o bunnoedd o nawdd gan Ewrop ddim wedi cael ei wario’n effeithiol, dydy busnesau ddim yn cael eu cefnogi’n gywir, cafodd 10 o gynlluniau iechyd cyhoeddus eu galw’n aneffeithiol yn ddiweddar, a dydy difreiniad ddim yn cael ei drechu.
“Mae’n gywilydd bod adroddiad diweddar gan Alan Milburn ar symudedd cymdeithasol wedi darganfod fod Cymru’n ail y tu ôl i Swydd Efrog am dlodi yng ngwledydd Prydain, bod ganddi’r ail gyfradd diweithdra uchaf ymhlith pobol o oedran gwaith a llai o swyddi proffesiynol nag yn unman arall heblaw gogledd-ddwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon.
“Fe wnaeth ddarganfod hefyd nad yw bron i dri chwarter y plant yng Nghymru sy’n gymwys ar gyfer cinio ysgol rad ac am ddim yn ennill pum gradd dda yn eu TGAU, sy’n uwch nag unrhyw ran o Loegr, sy’n ddim llai na brad.
“Mae’n gwbl amlwg, yn syml iawn, nad yw strategaethau Llafur yn llwyddo.”
‘Angen swyddi’
Ychwanegodd llefarydd cymunedau Plaid Cymru, Lindsay Whittle mewn datganiad: “Mae’r canfyddiadau hyn yn ofnadwy.
“Mae’n syndod, fodd bynnag, mai hon yn swyddogol bellach yw ardal fwyaf difreintiedig Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf, o ystyried bod yr Aelod Cynulliad lleol yn gyn-Weinidog Trechu Tlodi a bod dau aelod cabinet Llafur yn cynrychioli’r ardal. Beth maen nhw wedi bod yn ei wneud i wella’r sefyllfa?
“Mae’r ardal hon wedi cael ei thargedu drwy adnoddau ychwanegol yn y gorffennol i wella safonau ond yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw swyddi sy’n talu’n dda.
“Mae gan Barc Lansbury, lle bu nifer o’m teulu’n byw yn y gorffennol, nifer sylweddol o bobol ddi-waith, rhieni sengl, pobol hŷn ac unigolion sy’n dioddef o salwch felly mae lefelau incwm yn isel ac mae toriadau Llywodraeth y DU yn amlwg yn gwneud pethau’n waeth.
“Mae’r ystâd yn dioddef o stigma ond mae yno nifer o bobol barchus sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn erbyn costau cynyddol.
“Mae’r adferiad economaidd bondigrybwyll yn methu â chyrraedd pobol ym Mharc Lansbury a nifer o gymunedau eraill yng Nghymru.”