Mae saith o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o ecsbloetio plant yng ngogledd Lloegr.
Cafodd chwe dyn ac un llanc eu harestio yn ardaloedd Rochdale ac Oldham ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni gweithredoedd rhywiol gyda phlant.
Dywedodd yr heddlu fod y saith o gefndiroedd ethnig cymysg.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod yr honiadau’n ymwneud â dwy ferch 15 a 13 oed a bachgen 13 oed.
Yn ôl un o’r merched, roedden nhw’n cael eu paratoi ar gyfer cael eu cam-drin yn rhywiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Rochdale: “Mae llwyddiant Ymchwiliad Infrared yn golygu bod tri o blant diniwed bellach yn ddiogel ac mae saith o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad hwn.
“Mae’r math hwn o waith aml-asiantaeth yn dangos arfer da a gafodd ei grybwyll gan Ofsted yn ystod eu hymchwiliad diwedd o’n hymateb i ecsbloetio plant, a’r gwaith sy’n cael ei gwblhau yn ardal Manceinion Fawr trwy Brosiect Phoenix.”