Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Fe fydd pecyn o fesurau gwrth-frawychiaeth yn cael eu cyflwyno yn y Senedd heddiw wrth i ymgyrch cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth am eithafiaeth barhau.
Bydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn cyhoeddi Bil Gwrth-Frawychiaeth a Diogelwch sy’n cynnwys cyfres o bwerau llym gan gynnwys rhoi gofyn cyfreithiol ar ysgolion, carchardai a chynghorau i roi mesurau mewn grym i atal pobl rhag cael eu denu i ymuno a grwpiau eithafol.
Dywedodd Theresa May bod y pwerau yn “hanfodol i fynd i’r afael a’r bygythiad cynyddol a difrifol iawn rydym yn ei wynebu.”
“Fe fydd y bil yn cynnwys cyfres o gynigion a fydd yn helpu i’n cadw yn ddiogel yn ystod cyfnod o berygl sylweddol drwy sicrhau bod gennym y pwerau sydd eu hangen i amddiffyn ein hunain.”
Ond mae rhai o’r pwerau yn debygol o fod yn ddadleuol gan eu bod yn ymwneud a rhyddid yr unigolyn.
Mae’r ymgyrch gwrth-frawychiaeth yn canolbwyntio heddiw ar geisio atal pobl rhag cael eu dylanwadu gan wefannau cymdeithasol, ac yn galw ar rieni, gofalwyr, cyfeillion a chyd-weithwyr i fod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o eithafiaeth.
Ddoe, dywedodd adroddiad y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch (ISC) i lofruddiaeth y milwr Lee Rigby nad oedd digon o flaenoriaeth wedi cael ei roi i raglen y Llywodraeth i geisio atal unigolion rhag cael eu denu gan radicaliaeth.
‘Gwyliadwrus’
Dywedodd Pennaeth y Rhaglen Atal Brawychiaeth o fewn heddluoedd Cymru, Lee Porter:
“Ni all yr heddlu fod mewn pob mosg, coleg neu adeiladu cymunedol i fonitro beth sy’n cael ei drafod a’i annog. Nid ydym chwaith am i Gymru fod yn genedl o’r fath.
“Rydym yn galw ar rieni, ysgolion, a’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion sy’n dangos bod rhywun yn cael ei ddylanwadu gan eithafwyr a chael yr hyder i adrodd hyn yn ôl i’r heddlu.
“Edrychwch am unrhyw newid mewn ymddygiad; os yw rhai diniwed yn cychwyn mynegi barn wleidyddol eithafol neu yn cydymdeimlo gyda gweithredoedd o frawychiaeth. Neu os yw rhywun yn newid eu grŵp o ffrindiau neu’n treulio llawer iawn o amser ar y we.”