Leigh Halfpenny oedd yr enillydd y llynedd
Mae’r deg enw sydd wedi’u henwebu ar gyfer gwobr bwysig Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2014 wedi eu cyhoeddi heddiw.
Ymysg yr enwau ar y rhestr mae’r pêl-droediwr Gareth Bale, sydd hefyd wedi ei gynnwys ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC eleni, ar ôl blwyddyn wych ar y cae i’r Cymro.
Yn ymuno ag o mae’r gymnastwraig rhythmig Frankie Jones a gafodd ei dewis fel perfformiwr eithriadol Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow eleni; y golffiwr Jamie Donaldson wnaeth suddo’r ergyd a sicrhaodd Gwpan Ryder i Ewrop yn erbyn yr UDA; a’r seren jiwdo Natalie Powell wnaeth ennill y fedal aur yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.
Hefyd ar y rhestr fer mae’r nofwyr Jazz Carlin a Georgia Davies wnaeth ennill dwy fedal yr un yng Ngemau’r Gymanwlad; y seiclwyr ffordd Geraint Thomas, Elinor Barker a Rachel James; a Manon Carpenter sydd wedi cyflawni’r dwbl nodedig o ennill Cwpan y Byd Beicio Mynydd i Lawr Rhiw a medal aur ym Mhencampwriaethau Beicio Mynydd i Lawr Rhiw y Byd.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis drwy bleidlais gyhoeddus a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2014 ddydd Llun, Rhagfyr 8, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.
Bydd y bleidlais gyhoeddus, dros y ffôn neu neges destun, yn agored o ddydd Llun, Rhagfyr 1 tan ddydd Sadwrn, Rhagfyr 6.
Bydd manylion llawn ar sut i bleidleisio ar gael ddydd Llun, Rhagfyr 1.