Shaun Edwards a Warren Gatland
Mae is-hyfforddwr Cymru Shaun Edwards wedi gwadu bod pwysau ar ysgwyddau Warren Gatland ar ôl canlyniadau siomedig hyd yn hyn yng nghyfres yr hydref.
Dim ond unwaith mewn 27 gêm y mae Cymru wedi llwyddo i drechu un o dri chawr hemisffer y de ers i Gatland gael ei benodi yn 2008, ac maen nhw eisoes wedi colli i Awstralia a Seland Newydd y mis hwn.
Fe fyddai colled arall i Dde Affrica yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos hwn yn ergyd arall i hyder y tîm, fydd yn gobeithio trechu goreuon y byd yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Edwards yn bytheirio
Yn gynharach yr wythnos hon fe awgrymodd cyn-fachwr Iwerddon a’r Llewod, Shane Byrne, nad oedd Gatland wedi llwyddo i gyflawni cymaint ag y dylai fod wedi fel prif hyfforddwr Cymru.
Ond mewn cynhadledd i’r wasg heddiw fe wfftiodd Shaun Edwards y sylwadau hynny.
“Beth chi’n feddwl wrth ‘dan bwysau’?” meddai Edwards. “Os chi’n hyfforddwr rygbi prawf, mae pwysau ar bob gêm.
“Mae gan unrhyw hyfforddwr, mewn unrhyw gêm, bwysau arnyn nhw. Dw i ddim yn deall beth rydych chi’n ei feddwl. Ydych chi’n ceisio awgrymu ei fod am gael y sac?
“Os chi’n hyfforddi Wigan dan-11 mae pwysau arnoch chi. Rydych chi’n hyfforddwr. Wrth gwrs ei fod e o dan bwysau, mae pawb o dan bwysau. Mae pob gêm yn gêm o dan bwysau.
“Os chi’n hyfforddi tîm Cynghrair Sul rydych chi o dan bwysau i ennill. Dw i ddim yn deall beth rydych chi’n ceisio ei awgrymu.
“Beth os chi’n ennill tair Pencampwriaeth Chwe Gwlad [fel mae Gatland wedi’i wneud â Chymru]? Ie, ateb da. Cwestiwn nesaf.”
Amheuon dros Jenkins a North
Fe gadarnhaodd Shaun Edwards bod amheuon o hyd dros ffitrwydd y prop Gethin Jenkins a’r asgellwr George North cyn y gêm ddydd Sadwrn.
Fe fydd Jenkins yn aros i weld a yw wedi gwella o anaf i linyn y gâr erbyn i’r tîm gael ei enwi fory, tra bydd North yn cael rhagor o brofion ar ôl iddo gael clec i’w ben.
Fe fydd yn rhaid aros i weld hefyd a yw’r mewnwr Rhys Webb a’r cefnwr Leigh Halfpenny yn ffit i herio’r Springboks.
Ni fydd Nicky Smith ar gael wedi iddo rwygo cyhyr yn ei frest yn y gêm yn erbyn Seland Newydd, ac mae prop y Scarlets Rob Evans eisoes wedi’i alw i’r garfan rhag ofn y bydd sefyllfa’r anafiadau yn gwaethygu.