Mae’r cricedwr Phil Hughes yn ymladd am ei fywyd ar ôl cael ei daro yn ei ben gan bêl yn ystod gêm yn Awstralia.

Cafodd y batiwr ei daro yn ei ben wrth iddo geisio taro bownsar gafodd ei fowlio gan Sean Abott mewn gêm rhwng New South Wales a South Australia.

Er ei fod yn gwisgo helmed fe ddisgynnodd Phil Hughes yn syth i’r llawr wedi’r ergyd, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty ble cafodd lawdriniaeth ac yna’i roi mewn coma.

Mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol, yn ôl llefarydd ar ran yr ysbyty, ac fe ddywedodd rheolwr tîm South Australia nad ydyn nhw’n disgwyl gwybod canlyniad y llawdriniaeth am ddiwrnod neu ddau.

Mae pobl o bob cwr o’r byd criced wedi anfon eu dymuniadau gorau i Phil Hughes ers y digwyddiad, gan weddïo drosto a gobeithio ei fod yn gwella’n fuan.

Fe chwaraeodd Hughes i dîm cenedlaethol Awstralia am y tro cyntaf yn 2009, ac roedd sôn y byddai’n cael ei ddewis ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn India fis nesaf.