Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi’i enwi ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC eleni, ar ôl blwyddyn wych ar y cae i’r Cymro.

Fe fydd yn herio’r golffiwr Rory McIlroy a’r seren Fformiwla Un Lewis Hamilton am y wobr, fydd yn cael ei chyflwyno mewn seremoni fyw ar 14 Rhagfyr.

Mae’r rhestr o ddeg hefyd yn cynnwys y rhedwraig Jo Pavey, y bocsiwr Carl Froch, y nofiwr Adam Peaty a’r rasiwr skeleton Lizzy Yarnold.

Ac yn cwblhau’r rhestr mae’r sgiwraig Kelly Gallagher, y gymnastiwr Max Whitlock a’r seren dressage Charlotte Dujardin.

Y chwaraewr tenis Andy Murray oedd yn fuddugol yn 2013, wedi i’r Albanwr ennill tlws Wimbledon am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Blwyddyn arbennig

Mae 2014 wedi bod yn flwyddyn arbennig i Gareth Bale, a symudodd o Spurs i Real Madrid yn haf 2013 am swm record byd o £85m.

Eleni mae’r pêl-droediwr wedi sgorio goliau buddugol Real i ennill y Copa Del Rey a Chwpan Ewrop, ac wedi helpu Cymru i ddechrau’n dda yn eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016.

Ond fe fydd yn wynebu her am y tlws gan ddwy seren arall ym myd y campau sydd wedi llwyddo eleni hefyd.

Y golffiwr Rory McIlroy yw’r ffefryn ymysg y bwcis, a hynny ar ôl i’r gŵr o Ogledd Iwerddon ennill Pencampwriaeth y PGA a helpu Ewrop i gipio Cwpan Ryder.

Lewis Hamilton yw’r ail ffefryn, ar ôl i’r Sais ennill Pencampwriaeth F1 y Byd dros y penwythnos yn Abu Dhabi.

Mae nifer o’r athletwyr eraill wedi llwyddo i gael eu hunain ar y rhestr ar ôl ennill medalau yng Ngemau’r Gymanwlad a Gemau Olympaidd y Gaeaf.

Bydd yr enillydd yn cael eu dewis mewn pleidlais gyhoeddus ar 14 Rhagfyr, pan fydd rhaglen fyw yn cael ei darlledu i gyflwyno’r enillydd.