Michael Adebolajo
Ni allai asiantaethau cudd-wybodaeth fod wedi atal llofruddiaeth y milwr Lee Rigby yn ne-ddwyrain Llundain er i’w lofruddwyr fod yn hysbys iddyn nhw cyn yr ymosodiad.

Yn yr adroddiad hir-ddisgwyliedig, dywedodd y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch (ISC) nad oedd yn ystyried unrhyw un o’r cyfleoedd a gollwyd gan MI5, MI6 neu GCHQ yn y cyfnod wnaeth arwain at lofruddiaeth Lee Rigby gan Michael Adebolajo a Michael Adebowale yn ddigon sylweddol i fod wedi effeithio ar y canlyniad.

Astudio yng Nghymru

Fe wnaeth y pwyllgor hefyd ymchwilio i’r cyfnod a dreuliodd Michael Adebowale yng Nghymru yn astudio Arabeg yn Sefydliad Ewropeaidd y Gwyddorau Dynol (EIHS) – coleg Islamaidd preswyl ger Llanybydder, yn 2012.

Cafodd y coleg ei sefydlu yn 1998 gan grŵp o glerigwyr Islamaidd o Irac. Ei brif nod oedd darparu addysg Islamaidd i bobl ifanc Mwslimaidd difreintiedig. Collodd y coleg ei achrediad academaidd yn 2005 – yn ôl pob tebyg o ganlyniad i bryderon dros y lefel o drylwyredd academaidd.

Daeth MI5 i’r canlyniad mai ethos “gymedrol” oedd yn y coleg a dywedodd Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru wrth y pwyllgor fod Michael Adebowale yn fyfyriwr da tra’r oedd o yno a’i fod wedi troi at Islam er mwyn symud i ffwrdd o’r gangiau a chyffuriau oedd o’n rhan ohono yn Llundain.

‘Hafan i derfysgwyr’

Ond fe wnaeth y pwyllgor, sydd dan gadeiryddiaeth yr AS Ceidwadol Syr Malcom Rifkind, ddweud bod cwmni rhyngrwyd, sydd heb gael ei enwi, yn “hafan ddiogel i derfysgwyr” ar ôl i sgwrs ar-lein gael ei ddarganfod – ar ôl yr ymosodiad – rhwng Michael Adebowale ac eithafwr o dramor ble wnaeth o ddatgelu ei fod yn bwriadu llofruddio milwr.

Dywedodd y pwyllgor, petai MI5 wedi gwybod am y sgwrs, y byddai siawns y gellid fod wedi atal yr ymosodiad.

Ond oherwydd diffyg gweithredu gan y cwmni rhyngrwyd, a’r pwerau sydd ar gael i’r gwasanaethau diogelwch, ei bod hi’n “annhebygol iawn” y gallai’r asiantaethau fod wedi gwneud mwy.

Roedd Michael Adebolajo a Michael Adebowale wedi gyrru eu car at Lee Rigby, ger Barics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ym mis Mai’r llynedd cyn iddyn nhw ymosod arno tra’r oedd yn gorwedd yn y ffordd.

Bu’r ISC yn arolygu cannoedd o ddogfennau cyfrinachol a holi gweinidogion, penaethiaid y tair asiantaeth cudd-wybodaeth ac uwch swyddogion o’r Heddlu Metropolitan ar gyfer ei ymchwiliad.

Darganfu’r ymchwiliad bod y ddau ddyn, rhyngddynt, wedi ymddangos mewn saith o ymchwiliadau asiantaethau gwahanol.

Dywedodd yr adroddiad fod yr ISC wedi “darganfod nifer o wallau” yn yr ymchwiliadau hyn lle nad oedd prosesau wedi cael eu dilyn.

Ond ychwanegodd y grŵp o Aelodau Seneddol: “Nid ydym yn ystyried bod unrhyw un o’r gwallau hyn, o’u hystyried yn unigol, yn ddigon sylweddol i fod wedi gwneud gwahaniaeth.”

Dywedd y Prif Weinidog David Cameron yn Nhy’r Cyffredin bod yr adroddiad wedi “codi sawl mater pryderus.”