Mae Pennaeth yr Heddlu gwrth-frawychiaeth yng Nghymru wedi rhybuddio y dylai pobol sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad fod yn wyliadwrus o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch.
Wedi i Brydain lansio ymgyrch gwrth-frawychiaeth cenedlaethol ddoe, mae’r Uwch-Arolygydd Andy Morgan wedi annog y 30,000 o bobol sy’n defnyddio rheilffyrdd Cymru bob diwrnod fod yn hyderus a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw “ddigwyddiad amheus”.
Yn gynharach y mis yma, cafodd dyn ei ddedfrydu am fod a gwybodaeth yn ei feddiant am sut i wneud bomiau. Fe ddaeth yr achos i’r amlwg wedi i deithiwr trên roi gwybod i staff am ymddygiad amheus.
“Rydym yn galw ar eraill i ddilyn yr esiampl yma a gwneud eu rhan yn ein helpu i gadw system drafnidiaeth Cymru yn ddiogel rhag brawychwyr,” ychwanegodd Andy Morgan.
Cafodd yr alwad ei chefnogi gan y Prif Gwnstabl Nikki Holland, a ddywedodd: “Yn syml, mae system amddiffyn Cymru yn erbyn brawychiaeth yn cael ei gryfhau yn aruthrol wrth i’r heddlu a’r cyhoedd gyd-weithio.”
Mae posib cysylltu â’r heddlu gwrth-frawychiaeth ar 0800 789 321.