Mae’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw’n annog Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru i osod nod ar gyfer profion PISA 2015, fydd yn cael eu cymryd mewn llai na 12 mis.
Fis diwethaf, penderfynodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis i gefnu ar eu targed ar gyfer y profion er mwyn cael Cymru i mewn i’r 20 uchaf o ran safonau addysg rhyngwladol PISA.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar PISA yn y tymor byr, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu anelu am sgôr o 500 yn y profion ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth erbyn 2021.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn pryderu os fydd targed 2021 yn cael ei gyrraedd, a bydd gwledydd eraill y DU yn aros yn eu hunfan, bydd Cymru yn codi safle o fod y wlad waethaf yn y DU i’r ail waethaf.
Ers 2006, mae perfformiad Cymru yn y profion wedi gostwng ym mhob sgil, gan gynnwys 14 pwynt mewn gwyddoniaeth a 16 pwynt mewn mathemateg.
Yn 2012, Cymru wnaeth berfformio waethaf o holl wledydd y DU.
‘Uchelgais’
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros addysg, Angela Burns AC, na all Llywodraeth Lafur adael i genhedlaeth arall o blant wynebu’r profion heb “ddyhead neu dargedau.”
Meddai: “Fel y bobl ifanc eu hunain, dylai Gweinidogion Llafur gael uchelgais ar gyfer y system addysg yng Nghymru a nod clir i godi perfformiad Cymru o’i gymharu â gwledydd eraill.
“Dyw targed niwlog a fydd yn cael ei farnu yn Rhagfyr 2022 ddim digon da.
“Mae’n rhaid i Weinidogion Llafur osod targed ar gyfer y profion PISA 2015 i godi perfformiad Cymru mewn sgiliau sylfaenol ac i gymryd peth cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.”