Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ar ôl i fachgen 13 oed dreisio merch yn ei ddosbarth ar ôl cael gwers addysg rhyw yn yr ysgol.

Yn Llys Ieuenctid Dolgellau yn gynharach y mis hwn, roedd y bachgen, sy’n dod o Wynedd, wedi cyfaddef iddo ymosod ar y ferch, sydd hefyd yn 13 oed.

Mae Cyngor Gwynedd am gynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad yn 2012.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Cafodd yr honiad difrifol yma ei gyfeirio at Heddlu Gogledd Cymru yn syth ar ôl i’r mater ddod i’n sylw.

“Nawr mae’r broses gyfreithiol wedi dod i ben, fe fyddwn ni yn gweithio gyda Heddlu’r Gogledd a phartneriaid perthnasol eraill i gynnal adolygiad manwl o’r digwyddiad a cheisio adnabod a oes gwersi i’w dysgu.”

Dywedodd bod proses manwl mewn lle i ddelio gyda materion o’r fath.

Cafodd y bachgen orchymyn atgyfeirio am 12 mis a bydd yn gorfod bod ar y rhestr troseddwyr rhyw am 30 mis.