Castell Caernarfon
Mae deiseb gyda 1,000 o lofnodion sy’n galw am sefydlu Canolfan Dreftadaeth yn un o drefi “mwyaf hanesyddol Cymru” yn cael ei thrafod yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd heddiw.

Mae’r hanesydd Emrys Llywelyn, a drefnodd y ddeiseb, yn credu bod tref Caernarfon a’r Cofis yn haeddu canolfan er mwyn arddangos hanes a diwylliant yr ardal o dan un to.

Mae bron i fil o drigolion lleol ac ymwelwyr wedi cefnogi’r ddeiseb ac fe fydd yn cael ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad yn ddiweddarach.

‘Cywilyddus’

Dywedodd Emrys Llywelyn, sy’n tywys ymwelwyr ar deithiau o amgylch y dref: “Mae cyfartaledd uchel o’r ymwelwyr yn aros yn y dref a wastad yn gofyn ‘Lle mae’r amgueddfa?’.

“Peth anodd iawn ac eithaf cywilyddus yw gorfod dweud nad oes amgueddfa yn y dref ei hun. Maen nhw i gyd yn gweld hyn yn anhygoel gan fod hanes o’u cwmpas ym mhob man.”

Gwybodaeth

Mae Emrys Llywelyn yn awgrymu y dylai’r ganolfan gynnwys gwybodaeth am:

• Gaer Rufeinig Segontium – sydd filltir o ganol y Dref
• Y Dref Ganoloesol
• Capeli ac Eglwysi’r ardal
• Hanes Caernarfon – Y Diwydiant Llechi, Doc Victoria, Hanes Ellen Edwards
• Y diwydiant argraffu – Caernarfon oedd prifddinas yr Inc Cymraeg yn yr 19eg ganrif
• Yr Iaith Gymraeg – Mae dros 80% o drigolion Caernarfon yn siarad yr iaith
• Y Cofis – Mae’r Cofis yn enwog am eu ffraethineb a byddai cornel i son am yr eirfa
unigryw yn “werth ei gael”, yn ôl yr hanesydd.

Ychwanegodd: “Byrdwn hyn oll yw ceisio dangos i’r cyhoedd gymaint sydd yma. Byddai Canolfan Etifeddiaeth yng nghanol tref Caernarfon o werth i’r gymuned wrth ddenu gwirfoddolwyr i fod yno fel swyddogion, a rhoi hyder a pharch i’r hen dref anhygoel yma.

“Dw i wedi sôn wrth Dafydd Wigley ac Alun Ffred Jones am y syniad ac mae pawb yn cytuno fod Caernarfon yn haeddu cael canolfan etifeddiaeth. Mae gennym ni bethau amgenach na’r castell i’w dangos.

“Maen nhw’n gwrthod popeth i Gaernarfon, mi wnaethon nhw wrthod S4C, a rhoi mwy yn ne Cymru a dros y ffin.

“Caernarfon yw prif ddinas yr iaith Gymraeg yn yr holl fydysawd, ac mae isio gwerthu hynny.”