Llun: Daniel Leal-Olivas/PA Wire
Mae dau symudwr dodrefn a fu farw ar ôl i reilen falconi ddisgyn i’r ddaear yn Llundain wedi cael eu henwi.

Pwyliaid a oedd yn byw yng ngorllewin Llundain oedd y ddau – Tomasz Procko, 22, o Greenford, a Karol Szymański, 29, o Wembley.

Cafodd o leiaf chwe dyn arall, a oedd hefyd yn symudwyr dodrefn, eu hanafu yn y digwyddiad yn Knightsbridge ger canol Llundain,tua 10 fore Gwener.

Bu farw Tomasz Procko yn y fan a’r lle, tra bod Karol Szymański wedi marw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard bod “nifer o soffas yn cael eu cludo i’r cyfeiriad – a oedd yn cael ei adnewyddu – cyn i’r rheilen ar y balconi ildio a disgyn.”

“Mae ymchwiliad ar y gweill i ddeall amgylchiadau’r digwyddiad.”

Mae Sgwâr Cadogan yn ardal breswyl lewyrchus, ac eiddo’n werth £3.2m yno ar gyfartaledd. Mae llawer o’r adeiladau wedi’u troi’n fflatiau.