Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi heddiw bod yr ŵyl ar ei hennill o £90,000 yn dilyn Eisteddfod Sir Gâr 2014.
Cododd y pwyllgor lleol dros £400,000, 128% o’r targed a’r swm mwyaf erioed, a chafodd y pwyllgor lleol dan gadeiryddiaeth Gethin Thomas ei longyfarch mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth heddiw.
“Mae’r cyfarfod heddiw yn Aberystwyth wedi bod yn gyfle i ddiolch i bobol Sir Gâr yn ffurfiol, yn ogystal â diolch i Gyngor Sir Gâr, yn aelodau etholedig a staff, am eu holl gefnogaeth a chymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ymwelodd 143,502 o bobol ag Eisteddfod Sir Gâr – 10,000 yn llai nag yn Ninbych yn 2013 ond ychydig yn fwy na’r nifer a aeth i’r ddwy Eisteddfod flaenorol yn y de.
Adroddiad gwerthuso
Dywedodd Elfed Roberts fod y cyfarfod heddiw hefyd yn “gyfle i ni edrych yn ôl ac i werthuso wythnos lwyddiannus yn Llanelli, wrth i ni gyhoeddi ein hadroddiad ein hunain ar y prosiect cymunedol ac wythnos yr Eisteddfod ei hun.”
Mae’r adroddiad gwerthuso ar gael ar wefan yr Eisteddfod brynhawn Sadwrn yn dilyn cyfarfod y Cyngor. Mae cyfarfod y Cyngor heddiw, sy’n cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol, wedi bod yn edrych nôl ar Eisteddfod Sir Gâr, ac ymlaen at Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau ym Meifod y flwyddyn nesaf.
Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn trafod materion megis cofrestru’r Eisteddfod yn sefydliad corfforedig elusennol.