Aneirin Karadog
Mae’r bardd Aneirin Karadog wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn cyflwyno rhaglen gylchgrawn Heno ar S4C.
Dywedodd y cyflwynydd ei fod yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar ei waith yn Fardd Plant Cymru, ac ymgymryd â phrosiectau llenyddol eraill.
Ar ôl treulio naw mlynedd a hanner yn gweithio ar raglenni gyda chwmni cynhyrchu teledu Tinopolis yn Llanelli, fe fydd Aneirin Karadog yn ymddangos ar Heno am y tro olaf ar y degfed o Ragfyr.
Bardd a rapar
Enillodd Aneirin Karadog Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia, yn 2012.
Hefyd bu’n aelod o’r Genod Droog a’r Diwygiad, ac mae wedi rapio gyda Llwybr Llaethog a Cofi Bach a Tew Shady.