Bu’n rhaid i 500 o westeion ffoi o westy crand yn Llundain yn dilyn ffrwydrad nwy yn seler yr adeilad neithiwr.

Cafodd 14 o bobl eu hanafu yn sgil y ffrwydrad a achosodd i ran o westy pum seren y Churchill Hyatt Regency, yn ardal Marylebone ger canol Llundain, ddymchwel.

Cafodd 80 o ddiffoddwyr tân eu hanfon yn dilyn y ffrwydrad am 11.40 y nos, a dywed Gwasanaeth Ambiwlas Llundain fod 14 o bobol, gan gynnwys dau ddyn ag anafiadau i’w coesau, wedi eu cludo i ysbyty St Mary’s gerllaw.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwesty mai gweithwyr y gwesty oedd y rheiny a gafodd eu hanafu.

“Ni chafodd unrhyw westeion eu hanafu, a chafodd nhw eu cludo i westai cyfagos,” meddai’r llefarydd.

Mae peirianwyr adeiladu heddiw’n asesu’r difrod i seler yr adeilad.