Golygfa o Ardd Fotaneg Cymru
Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cwmni Cymreig i gynhyrchu ffilm sy’n hybu Cymru.
Gwnaeth Rhun ap Iorwerth AC yr apêl wedi i’r Prif Weinidog gytuno i’w swyddogion gynhyrchu ffilm hyrwyddo sydd yn adlewyrchu “ehangder dulliau byw, busnes a diwylliant Cymru”.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Rhaid i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd o ran cefnogi cwmnïau yng Nghymru ac un ffordd o wneud hyn yw cyflwyno polisïau caffael lleol.
“Mae gennym nifer o gwmnïau cynhyrchu dawnus dros ben yng Nghymru allai wneud gwaith gwych o hybu ein cenedl. Trwy gefnogi cwmnïau Cymreig, mae modd creu a sicrhau swyddi tra bod arian yn aros yng Nghymru ac yn cael ei wario yn economi Cymru.
“Ni ddylai Llywodraeth Cymru ailadrodd camgymeriad gwirion Prifysgol De Cymru pan oedd eu fideo hybu a gynhyrchwyd ar gyfer sinemâu llynedd nid yn unig wedi ei ffilmio ym Mryniau Mendip yng Ngwlad yr Haf ond oedd wedi ei wneud gan asiantaeth hysbysebu o Orllewin Lloegr, er bod digonedd o gwmnïau yn ardal de Cymru.
‘Hyder
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth bod rhaid cael hyder yn noniau cwmnïau ffilm Cymreig:
“Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddyfarnu contract ffilmio i River Film o Lundain i arddangos diwydiannau creadigol Cymru.”
“Gall cynyrchiadau o’r fath ynddynt eu hunain fod yn ddull o arddangos diwydiant cyfryngau Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn dangos hyder yn ein doniau cynhenid, lle bo modd.”