Maniffesto Llafur 2011
Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cwrdd ag aelodau ei blaid heddiw er mwyn trafod maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2015-16.
Mae Fforwm Polisi Llafur Cymru yn dweud eu bod wedi bod yn datblygu eu syniadau gydag aelodau’r cyhoedd a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru ers tua dwy flynedd.
Bydd eu hadroddiad yn cael ei gyflwyno i Gynhadledd Llafur Cymru yn Abertawe ym mis Chwefror 2015.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud heddiw bod yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn “llwyddiant hanesyddol” i Lafur, yn dilyn Cynhadledd Busnes Prydain yng Nghasnewydd a chytundeb hirddisgwyliedig ar drydaneiddio’r rheilffyrdd yn y de.
Bydd yn dweud: “Mewn cyfnod o dyndra ariannol, ni all unrhyw blaid honni bod ganddo fonopoli ar syniadau da.”
“Mae’n rhaid i ni gydbwyso gobaith gyda chynllunio pragmataidd a gofalus iawn, a chyflawni’r hyn ydan ni’n ei ddweud ein bod ni am ei wneud.”
‘Yn ateb cwestiynau Cymru’
Dywedodd llefarydd y blaid ar Gymru yn San Steffan, Owen Smith, “Mae aelodau wedi treulio amser yn llunio rhaglen sydd am ateb y cwestiynau sy’n wynebu’r Gymru fodern a gweddill Prydain.
“Rydym ni eisoes yn gwybod y byddwn ni’n gwthio am welliannau yn y cytundeb datganoli, ac am ehangu cynllun Twf Swyddi Cymru, sef cynllun Llafur ar gyfer gwaith i’r ifanc, i weddill y Deyrnas Unedig,” meddai AS Pontypridd.
“Ond rwy eisiau clywed syniadau eraill am sut gall Llywodraeth Lafur yn Llundain weithio gyda Carwyn Jones yng Nghymru i wella gobeithion swyddi a chynhyrchiant yng Nghymru, a chodi cyfoeth a chyfleoedd pobol Cymru.”