Fe fydd cwmni creu awyrennau Airbus, sydd â ffatri yng Nglannau Dyfrdwy, yn buddsoddi £100 miliwn yn y busnes yn sgîl cytundeb gyda Llywodraethau Cymru a Phrydain.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Prif Weinidog David Cameron yng Nghynhadledd Busnes Prydain yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw.
Bydd safle Airbus ym Mrychdyn, sy’n cyflogi tua 6,000 o bobol, yn derbyn tua £48 miliwn er mwyn diogelu’r swyddi ac i helpu’r ffatri i gystadlu yn erbyn cwmnïau eraill yn y maes.
Cameron yn chwifio’r Ddraig
“Mae’r Ddraig Goch yn rhuo unwaith eto ac mae Cymru yn le gwych i fuddsoddi a thyfu,” meddai David Cameron.
Ychwanegodd Paul McKinlay, sy’n rhedeg y ffatri ym Mrychdyn, fod hyn yn “newyddion gwych i’r gweithlu yma, a bydd yn helpu’r ganolfan i ddod hyd yn oed yn fwy effeithlon”.
Daw’r newyddion diweddara’ am Airbus wedi i Carwyn Jones gyhoeddi buddsoddiad o £8.1 miliwn yn y cwmni dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer hyfforddi gweithwyr newydd.