Fe gafodd dros 100 o arfau eu rhoi i’r heddlu yn ne Cymru, mewn ymgyrch 12 diwrnod i geisio creu cymunedau fwy diogel.

Roedd Heddlu De Cymru, Gwent a Dyfed Powys yn rhoi’r cyfle i bobol gyflwyno eu harfau anghyfreithlon i’r heddlu heb gael eu disgyblu.

Cafodd arfau megis gynnau llaw, reifflau, drylliau, arfau awyr, llawddrylliau a ffrwydron rhyfel eu cyflwyno, ac fe fydd yr heddlu yn cael gwared arnyn nhw yn ddiogel.

Bu’r ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 1-12 Tachwedd.

“Rydym yn falch iawn gyda llwyddiant yr ymgyrch ac yn dymuno diolch i bawb fu’n rhan ohono,” meddai’r  Prif Arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Ieuan Matthews.

“Y bwriad oedd cadw ein cymunedau yn ddiogel, trwy gael gwared â’r gynnau hyn a gyda chymorth y cyhoedd mi rydan ni’n gwneud hyn.”