Gimp
Bu’n rhaid i’r heddlu alw heibio tŷ teras yn Newcastle wedi cwynion bod mwy na 200 o fyfyrwyr yno’n mynychu parti sado masocistiaeth swnllyd.

Fe ddigwyddodd y parti’r Sadwrn diwetha’ yn ardal Jesmond y ddinas, sy’n gyrchfan i fyfyrwyr cyfoethog.

Yn ôl papur newydd y myfyrwyr roedd un o drefnwyr y parti wedi dweud: “Dyna’r tro cyntaf a’r olaf y bydd i’n mynd â phlisman o gwmpas fy nhŷ wedi gwisgo fel gimp.”

Fe gafodd Heddlu Northumbria eu galw wedi i gymydog gwyno am y twrw.

Fe alwodd y Glas heibio am dri’r bore ond ni welwyd unrhyw dorcyfraith.