Neil McEvoy
Mae cyn-ddirprwy Cyngor Caerdydd, Neil McEvoy, yn galw am i bobol Caerdydd gael ethol maer eu hunain, er mwyn “datrys problemau’r ddinas”.
Mae’r alwad wedi cael ei chefnogi gan y Cynghorydd Ashley Govier, aelod o’r blaid Lafur tros ardal Grangetown, sydd hefyd yn credu nad yw ei blaid ei hun yn ddigon atebol i bobol Caerdydd ar hyn o bryd.
Mewn cyfweliad ar sianel deledu leol newydd y brifddinas, Made in Cardiff, fe ddywedodd Neil McEvoy o Blaid Cymru bod llywodraethu Caerdydd “wedi chwalu’n deilchion.”
“Cafodd arweinydd presennol Caerdydd [Phil Bale] ei ddewis gan ddwsinau o bobol. Mae Caerdydd wedi derbyn hynny heb frwydr,” meddai Neil McEvoy, sydd hefyd yn arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd.
“Mae pobol Caerdydd yn cael bargen wael iawn, fel gweddill Cymru. Mae angen i ni ail-danio’r broses wleidyddol ac mae pobol Caerdydd angen arweinydd y maen nhw’n ei adnabod ac wedi pleidleisio amdano fo neu hi.”
Llais
Yn ôl y Cynghorydd Ashley Govier, byddai system wleidyddol newydd yn rhoi mwy o lais i drigolion y brifddinas:
“Mi faswn i’n hoffi gweld refferendwm yn cael ei gynnal, i weld os yw pobol Caerdydd eisiau ethol Maer newydd,” meddai wrth golwg360.
“Byddai Maer etholedig yn darparu lot mwy o sefydlogrwydd ac atebolrwydd a system well o lywodraethu yn gyffredinol.
“Mae pobol yn teimlo fel eu bod nhw wedi eu dadgysylltu o wleidyddiaeth gyda’r system bresennol, ond byddai newid hynny yn rhoi mwy o lais i bobol y ddinas alw am newid a gwelliant.”
Partneru â Bryste
Fe wnaeth Neil McEvoy hefyd bwysleisio bod y trafodaethau rhwng Caerdydd a Bryste er mwyn cryfhau’r cysylltiadau marchnata rhwng y ddwy ddinas yn mynd yn groes i ddymuniadau trigolion y ddinas.
“Mae’r syniad o bartneru hefo Bryste wedi mynd yn rhy bell. Mae’n rhaid i ni weithredu ar frys.”
Mae’r cynghorydd yn bwriadu lansio cynhadledd o’r enw Cardiff Convention i drafod y mater ymhellach.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd wrthod gwneud sylw.