Mae disgwyl i rywun dalu £40,000 am ddarlun dyfrlliw o hen neuadd dinas Munich mewn ocsiwn y penwythnos hwn, ond nid yn gymaint oherwydd gwerth artistig y gwaith ond oherwydd y llofnod ar waelod ochr chwith y cynfas: “A. Hitler”.

Fe beintiodd Adolf Hitler 2,000 o luniau a chredir i’r un o’r hen neuadd gael ei greu tua 1914, pan oedd yn stryffaglu i ennill ei fara menyn fel artist.

Mae’r llun yn cael ei werthu gan ddwy hen chwaer – fe brynodd eu taid y llun yn 1916.