Cerys Yemm
Mae cwest i farwolaeth dynes ifanc wedi clywed iddi ddiodde’ anafiadau difrifol i’w hwyneb a’i gwddf, a hynny mewn ymosodiad gan ganibal honedig.

Cafwyd Cerys Yemm, 22, yn gorwedd yn gelain mewn ystafell yn hostel y Sirhowy Arms yn Argoed yn gynharach fis yma.

Bu farw’r dyn sy’n cael ei amau o’i lladd, Matthew Williams, wedi i’r heddlu ddefnyddio gwn taser arno.

Er bod yr heddlu yn trin marwolaeth Cerys Yemm fel achos o lofruddiaeth, maen nhw wedi gwrthod ymhelaethu ar sut yn union y bu iddi farw.

Mewn gwrandawiad byr fe ddywedodd y Ditectif Uwcharolygydd William Davies o Heddlu Gwent wrth Lys y Crwner bod Cerys Yemm wedi marw oherwydd “trawma grym miniog i’r wyneb a’r gwddf”.

Mae’r Crwner David T Bowen wedi rhyddhau corff Cerys Yemm fel bo modd i’w theulu drefnu angladd.

Disgwylir cwest llawn i’w marwolaeth unwaith y bydd yr Heddlu a Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cwblhau eu hymchwiliadau.