Leigh Halfpenny
Fe fyddai trechu Seland Newydd yn well nag unrhyw fuddugoliaeth arall, yn ôl cefnwr Cymru Leigh Halfpenny.

Bydd bechgyn Warren Gatland yn herio’r Crysau Duon yn Stadiwm y Mileniwm amser te yfory ac yn ceisio ennill yn eu herbyn am y tro cyntaf ers 61 o flynyddoedd.

Ers hynny mae Cymru wedi colli 25 gêm yn olynol i Seland Newydd, ac mae Halfpenny yn mynnu y bydd angen pob owns o hunanhyder ar y tîm os ydyn nhw am ddod a’r rhediad yna i ben.

Dim Carter

Mae Warren Gatland wedi enwi tîm profiadol tu hwnt i herio Seland Newydd, gyda Halfpenny yn un o’r rhai sydd yn dychwelyd i’r tîm ar ôl methu’r gêm yn erbyn Fiji.

Golwg cyfarwydd iawn sydd i’r crysau cochion, gyda George North ac Alex Cuthbert ar yr esgyll, Jamie Roberts a Jonathan Davies yn y canol, a Dan Biggar a Rhys Webb yn safle’r haneri.

Richard Hibbard, Samson Lee a Paul James sydd yn y rheng flaen, gydag Alun Wyn Jones a Jake Ball yn yr ail reng, a rheng ôl brofiadol o Sam Warburton, Justin Tipuric a Taulupe Faletau.

Bydd Seland Newydd yn cael eu harwain unwaith eto gan y cawr o gapten Richie McCaw, ond does dim lle i’r maswr Dan Carter yn y tîm sydd yn golygu mai Beauden Barrett fydd yn gwisgo’r crys rhif 10.

‘Rhaid canolbwyntio’

Fe gollodd Cymru gêm agoriadol cyfres yr hydref i Awstralia, cyn trechu Fiji’r penwythnos diwethaf.

Ond os ydyn nhw am gael unrhyw siawns o drechu Seland Newydd fory fe fydd yn rhaid i’r tîm ganolbwyntio drwy gydol y gêm, meddai Halfpenny, a pheidio ag ildio ceisiau hawdd fel y gwnaethon nhw yn erbyn Awstralia.

“Mae’n sialens enfawr, ond un rydyn ni i gyd wedi cyffroi amdano,” meddai Halfpenny. “Fe fydd rhaid i ni fod ar ein gorau er mwyn cael siawns o ennill.

“Mae’n rhaid i ni chwarae am 80 munud a gallwn ni ddim fforddio peidio â chanolbwyntio yn erbyn tîm mor dda â’r Crysau Duon.

“Mae’n rhaid i ni gredu y gallwn ni ennill, o’r munud gyntaf. Mae gennym ni barch tuag atyn nhw, ond mae’n rhaid i ni eu trin yn union fel ein gwrthwynebwyr eraill.

“Mae yna gyffro, ac mae’r ffaith nad ydyn ni wedi curo’r Crysau Duon ers cymaint o amser yn golygu bod cyfle i ni.

“Rwyf wedi gweld buddugoliaethau gwych yn ystod fy ngyrfa yng nghrys Cymru, ond fe fyddai curo’r Crysau Duon yn uwch na nhw i gyd.”