Mae cadeirydd clwb pêl-droed Wigan wedi ymddiheuro yn dilyn sylwadau ganddo am Iddewon a Tsieineaid mewn cyfweliad papur newydd.

Mynnodd Dave Whelan fodd bynnag nad oedd y sylwadau yn y Guardian yn rai sarhaus, a’u bod wedi cael eu camddyfynnu.

Ond mae ymgyrch gwrth-hiliaeth Kick It Out bellach wedi galw ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i ymchwilio i sylwadau’r cadeirydd.

Mae Dave Whelan a Wigan wedi bod yn llygad y storm ers i’r clwb benodi Malky Mackay yn reolwr newydd ddeuddydd yn ôl, er bod ymchwiliad yn mynd yn ei flaen i negeseuon tecst hiliol a sarhaus tuag at ferched gan Mackay.

Iddewon yn “hel arian”

Mewn cyfweliad â’r Guardian fe wnaeth Dave Whelan sylwadau am bobl Iddewig yn hel arian, a dweud nad oedd unrhyw beth o’i le â galw rhywun Tsieineaidd yn ‘chink’.

“Dw i yn meddwl bod pobl Iddewig yn hel arian yn fwy na phawb arall. Dydw i ddim yn meddwl fod hynny’n sarhaus o gwbl,” meddai Whelan.

“Os yw Sais yn dweud ei fod erioed wedi galw dyn o Tsieina yn ‘chink’ yna mae’n dweud celwydd,” ychwanegodd Whelan. “Does dim byd o’i le ar wneud hynny.

“Mae fel galw Prydeinwyr yn Brits, neu’r Gwyddelod yn Paddies.”

Wrth siarad â’r BBC heddiw fe awgrymodd Dave Whelan ei fod wedi cael ei gamddyfynnu gan y Guardian, ac nad oedd yn difaru beth ddywedodd.

Ond fe ymddiheurodd wrth unrhyw un oedd wedi eu pechu gan ei eiriau.

“Os ydw i wedi pechu un person yna dw i’n ymddiheuro,” meddai Dave Whelan.

Ymgyrchwyr yn anhapus

Dywedodd Dave Whelan hefyd ei fod wedi clywed ar y slei nad oedd unrhyw beth am ddod o’r ymchwiliad i sylwadau Mackay, er bod y Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr wedi mynnu nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto.

Mae criw ymgyrch Kick It Out, sydd yn taclo hiliaeth o fewn pêl-droed, wedi cwestiynu a yw Dave Whelan yn gymwys i redeg clwb bellach.

“Mae hyn [y sylwadau] yn codi cwestiwn a yw e’n berson sydd yn ffit i redeg clwb pêl-droed proffesiynol,” meddai Kick It Out.

“Mae ei sylwadau yn esiampl arall o’r diwylliant sydd yn parhau o fewn pêl-droed, ac yn profi bod rhai mewn safleoedd pwerus yn gyfforddus yn rhannu’r math yna o safbwyntiau yn breifat ac yn gyhoeddus.

“Mae’n rhaid herio’r sylwadau yma, ac mae’n rhaid i’r FA ymchwilio i’r mater.”