Cerys Matthews
Fe fydd Cerys Matthews yn derbyn ei MBE gan y Frenhines am wasanaethau i gerddoriaeth heddiw.
Cafodd cyn-ganwr Catatonia wybod am ei gwobr yn gynharach eleni, a heddiw fe fydd hi’n casglu’r fedal o Balas Buckingham.
Bellach yn adnabyddus am gyflwyno ar orsaf BBC Radio 6 Music, ac mae’r gantores 45 oed o Abertawe hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ar ôl cyflwyno rhaglenni ar S4C a BBC4.
Yn ogystal â hynny mae hi hefyd yn llysgennad i nifer o elusennau gan gynnwys y Prince’s Trust.
Yn y 1990au roedd Cerys a’i band Catatonia yn syrffio ar don gerddorol a fathwyd yn ‘Cool Cymru’.
Roedd y bandiau Cymreig Catatonia, The Manic Street Preachers, Super Furry Animals a Gorkys Zygotic Mynci yn gwneud eu marc ar lefel Brydeinig a rhyngwladol.
Mae’n ymddangos fod y gantores wedi cael tipyn o dro ar fyd ers ei dyddiau cynnar gyda Catatonia, fodd bynnag.
Bryd hynny doedd hi ddim yn ymddangos fel ei bod hi mor gefnogol o’r frenhiniaeth, gyda’r gân ‘Storm The Palace’ gan Catatonia yn cynnwys y geiriau “You can stick your OBE”.