George North ar glawr Golwg wsos yma
Mae’n rhaid bod yn bositif am ddyfodol yr iaith a defnyddio enwogion i’w hyrwyddo ymysg pobol ifanc.

Dyna neges Dafydd Iwan wrth iddo lansio Strategaeth Iaith yng Ngwynedd yr wythnos hon sy’n anelu at gynyddu canran siaradwyr Cymraeg y sir o 65 i 70% erbyn 2021.

Yn ogystal â chreu gwaith i gadw pobol ifanc yn y sir, mae’r canwr sy’n Gadeirydd Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd – yn credu’n gryf bod angen defnyddio enwogion ifanc sy’n medru siarad Cymraeg i ddangos bod yr iaith yn “cool”.

Mae Dafydd Iwan yn galw am ymgyrch genedlaethol i “gael pobol ifanc i weld y Gymraeg fel rhywbeth cool, ffasiynol a da.

“Dw i’n credu bod eisiau defnyddio selebs Cymraeg. Dy George Norths a dy Nigel Owens a dy Aaron Ramseys di.

“Dw i’n meddwl fod yna gymaint o ddylanwad gan y cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid i ni fod yn newid y ddelwedd.”

Pwysleisio’r positif

Mae ymgyrchwyr iaith, cynghorwyr, ymgeisydd i fod yn Aelodau Seneddol Plaid Cymru, cynghorwyr cymuned, cynghorwyr sir Plaid Cymru, actorion, cerddorion a beirdd wedi beirniadu cynllun sydd ar y gweill gan Gyngor Gwynedd i ganiatáu codi tua 4,000 o dai yn y sir.

Eu hofn yw bod y tai am ddenu ton arall o fewnlifiad fydd yn boddi’r cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y sir.

Ond mae Dafydd Iwan yn credu bod angen osgoi bod gydag obsesiwn am effaith codi tai newydd.

“Dw i ddim yn credu mewn fflangellu ein hunan efo ffigyrau , a dweud ei bod hi ar ben arnom ni, a bod ni’n colli tir, ac mae [Cyngor] Gwynedd am ladd y cyfan efo miloedd o dai.

“Mae’n hawdd mynd i’r mode negyddol yna. Mae’n llawer iawn haws gen i edrych ar y ffeithiau yn realistig, ond gweld y cryfderau a gweithio ar y rheiny.”

Yn ôl Cadeirydd Hunaniaith, “ennill pobol ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ydy’r dasg fwya’ sydd o’n blaenau ni – os ydan ni’n colli’r frwydr yna, mae hi’n mynd i fod yn anodd iawn.”

Dafydd Iwan yn trafod “her enfawr” Hunaniaith yng nghylchgrawn Golwg wsos yma.