Mae adroddiad am ddigwyddiad ar reilffordd ger Amwythig wedi nodi y bu’n rhaid i weithiwr neidio allan o ffordd trên oedd yn teithio ar gyflymdra o 85 milltir yr awr.

Cafodd y gweithiwr fân anafiadau wrth neidio o droli roedd yn gweithio arno wrth i drên Arriva Cymru agosáu ar Ionawr 16 eleni.

Tarodd y trên yn erbyn y troli ychydig eiliadau wedi i’r gweithiwr neidio allan o ffordd y cerbyd oedd yn teithio rhwng Crewe ac Amwythig.

Ni chafodd y gyrrwr, staff y trên na’r unig deithiwr eu hanafu.

Nododd yr adroddiad fod y ddamwain wedi digwydd gan fod y troli wedi cael ei osod ar linell nad oedd ar gau i drenau.
Roedd un o’r llinellau cyfagos wedi cael ei chau.

Nododd yr adroddiad hefyd fod rhai o’r manylion ar ffurflenni iechyd a diogelwch yn dilyn y digwyddiad yn gamarweiniol.
Daeth i’r amlwg fod y gweithiwr wedi sylweddoli bod y troli ar y llinell anghywir, ond ei fod e wedi methu â symud y troli i’r llinell ddiogel.

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o gamau i’w cymryd er mwyn osgoi damweiniau tebyg yn y dyfodol.